Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 11 Mai
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3591
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gwahoddodd y Llywydd (Y Fonesig Rosemary Butler) enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog 6.6.
Cafodd Elin Jones ei henwebu gan Dai Lloyd.
Eiliodd Jane Hutt yr enwebiad.
Cafodd Dafydd Elis-Thomas ei enwebu gan Adam Price.
Eiliodd Neil Hamilton yr enwebiad.
Gwahoddodd y Llywydd yr ymgeiswyr i annerch y Cynulliad.
Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais gudd yn unol â Rheol Sefydlog 6.8.
Canlyniad y bleidlais gudd oedd:
Elin Jones
|
Dafydd Elis-Thomas |
Ymatal |
Cyfanswm |
34 |
25 |
1 |
60 |
Cyhoeddodd y Llywydd fod Elin Jones wedi’i hethol
yn Llywydd.
Daeth Elin Jones i’r Gadair ac annerch y Cynulliad.
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gwahoddodd y Llywydd (Elin Jones) enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog 6.6.
Enwebwyd John Griffiths gan David Rees
Eiliodd Janet Finch-Saunders yr enwebiad.
Enwebwyd Ann Jones gan Joyce Watson.
Eiliodd Angela Burns yr enwebiad.
Gwahoddodd y Llywydd yr ymgeiswyr i annerch y Cynulliad.
Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais gudd yn unol â Rheol Sefydlog 6.8
Canlyniad y bleidlais gudd oedd:
John Griffiths |
Ann Jones |
Ymatal |
Cyfanswm |
29 |
30 |
0 |
59 |
Cyhoeddodd
y Llywydd fod Ann Jones wedi’i hethol yn Ddirprwy Lywydd
a’i gwahodd i annerch y Cynulliad.
Dechreuodd yr eitem am 15.01.
Penderfynodd y Cynulliad gymryd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog, yn unol â Rheol Sefydlog 12.11.
Gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog yn unol â Rheol Sefydlog 8.2.
Cafodd Carwyn Jones ei enwebu gan Jane Hutt.
Cafodd Leanne Wood ei henwebu gan Rhun ap Iorwerth.
Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais drwy alw cofrestr yr Aelodau. Gwahoddodd y Llywydd bob Aelod a oedd yn bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd. Cafodd Aelodau eu galw yn nhrefn yr wyddor. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni chaniatawyd i’r Llywydd na’r Dirprwy Lywydd bleidleisio.
Canlyniad y bleidlais oedd:
Carwyn Jones
|
Leanne Wood |
Ymatal |
Cyfanswm |
29 |
29 |
0 |
58 |
[gweler y
crynodeb o’r pleidleisiau i gael y canlyniad llawn]
Gan fod y pleidleisiau rhwng y ddau ymgeisydd yn gyfartal, ataliodd y Llywydd y cyfarfod am 15.09.
Ailymgynullodd y cyfarfod am 15.47. Cyhoeddodd y Llywydd, gan ei bod yn amlwg na fyddai cynnal pleidlais arall drwy alw’r gofrestr yn arwain at ganlyniad pendant, ei bod yn gohirio’r cyfarfod ac yn dwyn y trafodion i ben.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.8, bydd y Llywydd yn sicrhau y caiff yr Aelodau eu hysbysu o ddyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.
Daeth y cyfarfod i ben am 15.48
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 18 Mai 2016